Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 5
Dyddiad: Dydd Mercher, 7 Rhagfyr 2022
Amser:
09.00 -
11.32
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13287
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
John Griffiths AS (Cadeirydd) Mabon ap Gwynfor AS Jayne Bryant AS Joel James AS Sam Rowlands AS Carolyn Thomas AS |
Tystion: |
Julie James AS, Y Gweinidog Newid Hinsawdd Amelia John, Llywodraeth Cymru Sarah Rhodes, Llywodraeth Cymru Emma Williams, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Catherine Hunt (Ail Glerc) Chloe Davies (Dirprwy Glerc) Jonathan Baxter (Ymchwilydd) Gareth Howells (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1. Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai.
1.2. Ni chafwyd ymddiheuriadau, dirprwyon na datganiadau o fuddiant.
2 Digartrefedd – sesiwn dystiolaeth 5 – y Gweinidog Newid Hinsawdd
2.1. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:
Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd
Amelia John, Cyfarwyddwr, yr Is-adran Polisi Tai, Llywodraeth Cymru
Sarah Rhodes, Pennaeth Atal Digartrefedd, Llywodraeth Cymru
Emma Williams, Cyfarwyddwr Tai ac Adfywio, Llywodraeth Cymru
2.2. Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog mewn perthynas â materion sy’n ymwneud â phwysau’r gaeaf.
2.3. Gofynnodd y Pwyllgor i’r Gweinidog am ragor o wybodaeth ynghylch pam mai dim ond chwe awdurdod lleol sydd wedi cyflwyno Cynlluniau Pontio Ailgartrefu Cyflym i Lywodraeth Cymru.
3 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod, ac o’r cyfarfod a gaiff ei gynnal ar 14 Rhagfyr 2022
3.1. Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
4 Digartrefedd – trafod y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitem 2 a thrafod y materion allweddol.
4.1. Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law a’r materion allweddol, a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog mewn perthynas â nifer o’r materion a godwyd.
5 Trafod yr adroddiad drafft ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Tai Cymdeithasol (Rheoleiddio).
5.1. Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad.